Eisteddfod yr Urdd 08: Cystadleuaeth y Prif Gyfansoddwr
Llongyfarchiadau enfawr i Ieuan Wyn am ennill yr ail wobr yng nghystadleuaeth y prif gyfansoddwr. Enillodd Ieuan y drydedd wobr y llynedd...pob hwyl iddo flwyddyn nesa' ;o) Dyma'r wobr gyntaf i'w hennill gan aelod o'r Aelwyd ar lwyfan yr eisteddofd eleni. Gobeithio'n fawr nad hi fydd yr ola'! Pob hwyl i weddill yr aelodau weddill yr wythnos, mae hi'n mynd i fod yn wythnos fawr!
Am dabl o holl ganlyniadau'r Aelwyd yn Eisteddfod yr Urdd eleni a thros y 5 mlynedd dwytha, ewch i aelwydyrynys.com/llwyddiannau.php
Labels: 2008, conwy, eisteddfod yr urdd

0 Sylw:
Ychwanegu sylw
<< Hafan