Llwyddiannau!
Cafodd yr Aelwyd eu medalau cyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Sir Ddinbych 2006 heddiw wrth i Catrin "Toffoc" Roberts o Lanbedrgoch ddod i'r brig yn canu Cerdd Dant. Yn ogystal, daeth hi â'i chyfneither Manon Dafydd o Roscefnhir yn gyntaf wrth ganu Deuawd. Dyma ddechrau gwych i obeithion yr Aelwyd yn yr Eisteddfod!
Byddwn yn brysur iawn yfory, yn cystadlu ar nifer fawr o gystadleuthau gan gynnwys mynd "am y tripl" gyda'r detholiad o Sioe Gerdd, wedi ennill y gystadleuaeth honno ddwy flynedd yn olynol bellach. Gobeithio bydd pawb ar eu gorau ac wedi cael digonedd o gwsg cyn cychwyn o Sir Fôn am 6 bore fory!
Lluniau yma

0 Sylw:
Ychwanegu sylw
<< Hafan