Mawl a Chân, Moelfre
Canodd yr Aelwyd mewn noson Mawl a Chân yng Nghapel Carmel, Moelfre neithiwr. Trefnwyd y cyngerdd er budd Pwrs y Samariad drwy Mrs Mair Parry. Bydd ar arian a godwyd yn mynd tuag at brynu puryddion dŵr ar gyfer Liberia yn Affrica.
Diolch yn fawr i Sioned Owen a Peredur Glyn am drefnu'r rhaglen, a hefyd llongyfarch Peredur ar arwain y côr am y tro cyntaf, gyda Nia yn cyfeilio! Roedd yn noson yn llwyddiant, a rhaid yw nodi unwaith eto bod y bwyd wedi plesio, yn enwedig y Brechdanau Ŵy gan Huw Sdrej!
Lluniau i ddod yn fuan.

3 Sylw:
Yda ni am gael gwbo ym mha gystadleuthau y bydd aelwyd yr ynys yn cystadlu ynddy nhw yn y genedlaethol?
Nacdach siwr! Top sicryt!!
Deu gwir 'tha ti, sgen i ddim syniad...dwi'n gwybod bod y Chwartar awr o Adloniant yn cael ei ddodwy ar hyn o bryd. Sbia ar y lluniau yn fama i weld os gei di gliwiau! ;-)
Mi ofynnai i'r bos pan gai air efo hi eto...
Yn ol y bos, fe fydd yr Aelwyd yn cael ei chynrychioli mewn tua ugain o gystadlaethau yn Rhuthun eleni!
Ychwanegu sylw
<< Hafan